Recriwtio Cadeirydd– Amgueddfa Cymru
Crynodeb o’r swydd:
Mae Amgueddfa Cymru wedi’i chorffori
drwy Siarter Frenhinol ac mae'n elusen gofrestredig a reoleiddir
gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Mae gan y Cadeirydd felly
gyfrifoldebau o dan y Siarter ac, fel pob Ymddiriedolwr, rhaid
gydymffurfio â chyfraith elusennau a chanllawiau'r Comisiwn
Elusennau.
Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog/Gweinidogion
Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru sy’n darparu tua 80% o
gyllid yr Amgueddfa) a gall Senedd Cymru ei ddwyn hefyd i gyfrif.
Rhaid i gyfathrebu rhwng y Bwrdd a'r Gweinidog, yng nghwrs arferol
busnes, gael ei gynnal drwy'r Cadeirydd. Rhaid i'r Cadeirydd
sicrhau bod ymddiriedolwyr eraill yn cael gwybod am bob gohebiaeth
o'r fath.
Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithredoedd yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod materion y Corff yn cael eu cynnal gydag uniondeb. Lle bo'n briodol, rhaid i'r Cadeirydd drefnu bod y polisïau a'r gweithredoedd hyn yn cael eu rhannu â phob rhan o’r Corff.
Bydd y Cadeirydd yn rhywun a all chwarae rhan flaenllaw, gan ysbrydoli a chefnogi gwaith yr Amgueddfa i wireddu ei gweledigaeth, Mae sefyllfa'r Cadeirydd yn gofyn am berson gonest â gweledigaeth, all arwain sefydliad cenedlaethol mewn rôl anweithredol uwch, a bod yn eiriolwr o blaid yr Amgueddfa gyda'n rhanddeiliaid allweddol.
Cefndir:
Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.8 miliwn o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn.
Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arweinydd ym myd addysg a chyfranogiad diwylliannol.
Mae safleoedd Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerleon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.
Noddir Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer pennu cyfeiriad strategol y sefydliad, a sicrhau bod ei hadnoddau’n cael eu rheoli yn iawn. Fel Amgueddfa, rydym yn atebol hefyd i’r wlad a wasanaethwn am ddefnyddio’n casgliadau a’n hadnoddau.
Crynodeb Cyhoesurwydd:
Dosbarthodd Llywodraeth Cymru fanylion y penodiad drwy restrau rhanddeiliaid a ddelir gan yr Uned Cyrff Cyhoeddus (PBU) a phostio'r swydd wag ar wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a gwefan Swyddfa Cabinet y DU.
Hyrwyddwyd y swydd wag gan y sianeli Cyfryngau Cymdeithasol canlynol a'i hysbysebu drwy'r cyfryngau a restrir isod:
· Diversity Jobsite
· Fish4jobs
· Black Young Professionals
· Women on Board
· The Guardian
· Museums association
· Museum Next
· Safle Swyddi
· Lleol
Crynodeb o'r broses recriwtio:
Hysbysebwyd ar
wefan Llywodraeth Cymru a Swyddfa'r Cabinet rhwng 10 Mawrth a 11
Ebrill 2023
Sift – 18
Ebrill 2023
Cyfweliadau – 23 a 26 Mai 2023
Aelodaeth panel cynghori asesu:
Jason Thomas, (Cadeirydd), Cyfarwyddwr, Chwaraeon Diwylliant a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru
Craig
Stephenson, Uwch Aelod Annibynnol y Panel
Helgard Krause, Cyngor Llyfrau Cymru, Aelod Annibynnol y
Panel
Derbyniwyd cyfanswm o 9 cais ar gyfer y rôl newydd. Cafodd 4 ymgeisydd eu hargymell ar gyfer cyfweliad. Ystyriodd y Panel Cynghori Asesu fod 3 ymgeisydd yn benodedig.
Hoff ymgeisydd y Dirprwy Weinidog Chwaraeon y Celfyddydau a Thwristiaeth – Kate Eden
Gwrthdaro Buddiannau (fel y nodir ar y ffurflen gais)
Aelod o'r Cyngor ac
Is-gadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru Prifysgol
Aberystwyth
Gweithgaredd Gwleidyddol (fel y nodir ar y ffurflen gais)
Dim